Gorymdaith y Cenhedloedd
Dydd Mawrth 8 Gorffennaf, 4.30 y pnawn
Bob blwyddyn mae cynnwrf a lliwiau’r Eisteddfod yn ymledu trwy strydoedd tref Llangollen. Ymunwch yn yr hwyl wrth i berfformwyr rhyngwladol, yn eu gwisgoedd traddodiadol, orymdeithio trwy’r dref hardd a dros y bont enwog – dyma’r drefn ers 60 mlynedd.
Mae’r cyfan yn cychwyn ar Faes yr Eisteddfod ar ddydd Mawrth 8 Gorffennaf a, 4.30 y pnawn (os bydd y tywydd yn caniatáu).
